1.              Mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r cyfle i roi sylw ar yr ymgynghoriad presennol. Mae’r sylwadau isod yn ymwneud  yn bennaf â gweithredu Deddf yr Amgylchedd

Hanesyddol a’r elfen o ddiogelu enwau lleoedd yn sgil rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Diogelu enwau lleoedd hanesyddol

2.              Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg gyfrifoldeb dros gydgysylltu datblygiadau ym maes enwau lleoedd Cymraeg ac rwyf wedi pwysleisio’r angen am ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru droeon mewn ymgynghoriadau blaenorol yn ymwneud â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol. Mae i enwau hanesyddol gysylltiad uniongyrchol â’r amgylchedd hanesyddol wrth gwrs a’r enwau’ n gallu dadlennu llawer am hanes lle penodol, am nodweddion y dirwedd neu am weithgarwch pobl yn y lle hwnnw. Mae’r enwau gymaint â’r nodweddion eu hunain,yn rhan o etifeddiaeth ein gwlad, yn rhan o’ n diwylliant a’ n hunaniaeth genedlaethol ac yn gallu creu syniad o le ac o berthyn.

Yn wir, roedd gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru yn y lle cyntaf i greu a chadw rhestr o enwau lleoedd  hanesyddol ar gyfer Cymru yn gam cyntaf pwysig i’r cyfeiriad cywir o ran diogelu enwau hanesyddol, ond credaf fod ange n trafodaeth bellach, fanylach ynghylch y modd  y defnyddir y rhestr i ddiogelu’r enwau sydd arni  yn absenoldeb deddf i’w gwarchod. Fel y gwyddoch, roeddwn yn gefnogol mewn egwyddor i Fil Dai Lloyd AC i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol, ac er na chafwyd datblygu’r Bil hwnnw ymhellach, esgorodd y trafodaethau cychwynnol ar syniadau a chefnogaeth eang. Dylid yn sicr fanteisio ar y gefnogaeth a’r momentwm er mwyn parhau â thrafodaethau pellach ynghylch dulliau ymarferol o ddiogelu enwau lleoedd.

Fel y nodir yn y canllaw statudol, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio, ac fel yr ategodd Ken Skates AC yng nghyfarfod llawn y Cynulliad ar 15 Mawrth 2017, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn cyflwyno dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol i roi sylw ac ystyriaeth ddyledus i’r rhestr wrth newid enwau neu enwi strydoedd neu leoedd o’r newydd. Pwysig yw cofio, fodd bynnag, mai dyletswydd i ystyried yn unig sydd yma ac nid oes dyletswydd i lynu at yr enwau hanesyddol a geir ar y rhestr. Mae lle i amau a yw gofyn i awdurdod lleol ddilyn y polisi hwn yn llwyr effeithiol ac yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Mae’r canllaw statudol yn cyfeirio’n benodol at awdurdod lleol Ceredigion fel enghraifft o awdurdod sy’ n dilyn polisi o’r fath; yng ngoleuni adroddiad ar Bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd gan Gyngor Sir Ceredigion fodd bynnag, ymddengys nad yw annog ystyriaeth o enwau hanesyddol o reidrwydd yn arwain at gadw ac at warchod yr enwau hynny mewn gwirionedd. Mae’r adroddiad yn nodi tair enghraifft o enwau Cymraeg hanesyddol sydd wedi cael eu disodli gan enwau Saesneg er gwaethaf ymdrech y cyngor i lythyru â’r sawl oedd yn dymuno newid yr enwau gan eu hannog i ailystyried eu penderfyniad. Dyma brawf bod angen ystyriaeth bellach o’r modd ymarferol y defnyddir y rhestr statudol.

Gobeithio bod y sylwadau hyn o gymorth i’r Pwyllgor ac y byddant yn ysgogiad iddo ailgydio yn y drafodaeth ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol.